Sut rwy'n cyrraedd Abertawe?
Ewch i dudalen deithio'r sioe awyr am fanylion llawn.
Ble gallaf barcio?
Lle y bo'n bosibl, rydym yn eich cynghori i ddefnyddio safle Parcio a Theithio ar Ffordd Fabian am £2.50 y car.
Ewch i dudalen deithio'r sioe awyr am fanylion llawn.
Rwyf wedi trefnu parcio ymlaen llaw – ble mae maes parcio'r Rec?
Mae eich lle wedi'i gadw ym maes parcio'r Rec sydd ger ardal y ffair hwyl ar y map isod (cliciwch i chwyddo'r llun).
Os ydych yn teithio o gyfeiriad canol y ddinas tuag at y Mwmbwls, byddwch yn gweld Maes Rygbi a Chriced San Helen ar y dde, a bydd angen i chi droi i'r dde wrth y goleuadau nesaf.
Os ydych yn teithio o gyfeiriad y Mwmbwls/Gŵyr, byddwch yn pasio Prifysgol Abertawe ar y chwith, yna trowch i'r chwith ar ôl y goleuadau nesaf yn Lôn Brynmill.
Pam mae'n rhaid i mi gyrraedd yn gynnar os ydw i eisoes wedi trefnu fy lle yn y maes parcio?
Bydd miloedd o bobl yn dod i Abertawe i fwynhau Sioe Awyr Genedlaethol Cymru, a bydd y traffig yn drwm.
I sicrhau nad ydych yn colli dechrau'r arddangosiadau awyr, rydym yn eich cynghori'n gryf i gyrraedd yn gynnar a mwynhau'r arddangosfeydd ar y ddaear sydd ar agor o 10.00am tan 6.00pm ar y ddau ddiwrnod.
A wneir unrhyw waith ffordd ar y penwythnos hwnnw?
Na. Caiff y gwaith ffordd ar Ffordd Fabian ac o amgylch y Ganolfan Ddinesig eu gohirio ar 9 a 10 Gorffennaf.
Nid yw sioe awyr yn llesol iawn i'r amgylchedd – beth rydych yn ei wneud i helpu'r amgylchedd?Bydd nifer o fannau ailgylchu yn y digwyddiad a bydd aelodau o dîm ailgylchu'r cyngor wrth law i helpu a chydlynu clirio'r sbwriel.
Mae'r cyngor yn plannu coed a llwyni ychwanegol ar draws y ddinas.
Mae llawer o'r awyrennau sy'n cymryd rhan yn yr arddangosiadau'n gwneud hynny fel rhan o'u hyfforddiant arferol.
Mae cynllun rheoli traffig y digwyddiad yn annog rhannu ceir a dulliau amgen o gludiant lle y bo'n bosibl.
Gofynnwyd i'r holl stondinau arlwyo ddefnyddio deunydd pacio wedi'i ailgylchu yn unig.
A fydd sylwebaeth?
Bydd, bydd sylwebaeth yn ystod yr arddangosiadau awyr a gwneir cyhoeddiadau i'r cyhoedd drwy'r dydd.
Bydd system sain yn rhedeg o'r Ganolfan Ddinesig i'r prif safle arddangos ar y ddaear ar y promenâd ger y Senotaff.
Bydd y diweddaraf hefyd ar gael ar Twitter – http://www.twitter.com/walesairshow
Ble mae'r lle gorau i weld yr arddangosidau awyr?
Rydym yn argymell unrhyw le ar hyd Promenâd Abertawe, o'r Mwmbwls i'r Ganolfan Ddinesig.
Mae yna hefyd lawer i’w weld ac i'w wneud ar y traeth rhwng y Ganolfan Ddinesig a'r Rec, gan gynnwys sesiynau chwaraeon a chestyll neidio, a'r prif arddangosfeydd ar y ddaear/gweithgareddau ar y promenâd yn y Senotaff a'r Rec.
Beth arall sy'n digwydd y penwythnos hwnnw?
Cynhelir arddangosfa Dilyn y Fflam yn Neuadd Brangwyn, sy'n dathlu cyfraniad Cymru i'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.
Cynhelir Pencampwriaethau Hwylio Ysgolion Cymru ar ochr y Mwmbwls o Fae Abertawe.
Am ragor o ddigwyddiadau ym mis Gorffennaf, ewch i www.gwylbaeabertawe.com
Sut gallaf ddod o hyd i ddigwyddiadau eraill yn Abertawe?
Cofrestrwch ar gyfer negeseuon e-bost neu negeseuon SMS am ddigwyddiadau yn Abertawe yn www.fyabertawe.info
Gallwch hefyd fynd i www.abertawe.gov.uk/whatson
Rhwng mis Mai a mis Medi, mae llawer o ddigwyddiadau ledled Abertawe wedi'u rhestru ar www.gwylbaeabertawe.com
Beth gall fy mhlant wneud yn y sioe awyr?
Mae'r ardal arddangos ar y ddaear yn cynnwys ffair hwyl, caban peilot hofrennydd Chinook, caban peilot Typhoon, efelychwyr hediadau ac arddangosfeydd milwrol. Bydd hefyd waliau dringo a chwrs ymosod chwyddadwy.
Cynhelir gweithgareddau ar y traeth hefyd, gan gynnwys sesiynau chwaraeon, cestyll neidio a beiciau cwad.
A fydd cofroddion i'w prynu yn y sioe awyr?
Bydd. Bydd gan lawer o'r timau hedfan gofroddion ar werth, e.e. y Red Arrows.
A fydd hi'n swnllyd?
Bydd, bydd sŵn, yn enwedig yn ystod yr arddangosiadau awyrennau jet gan y Tornados, y Red Arrows, Blades a Team Viper.
Gall fod sŵn o sesiynau ymarfer ddydd Gwener 8 Gorffennaf rhwng 11.00am a 4.00pm, yn ogystal â phrynhawniau 9 a 10 Gorffennaf.
Efallai yr hoffech ddod â phlygiau clust neu amddiffynwyr clust i blant ifanc.
A allaf ddod â'm hanifail anwes?
Byddem yn awgrymu eich bod yn gadael eich anifeiliaid anwes gartref. Bydd yr arddangosiadau awyr yn swnllyd iawn ac rydym yn disgwyl miloedd o bobl yn y digwyddiad. Peidiwch â gadael anifeiliaid anwes yn eich car.
A fyddaf yn gallu prynu bwyd yn y digwyddiad?
Byddwch, bydd nifer o stondinau bwyd. Lleolir y rhain yn y Ganolfan Ddinesig, y Rec ac ar y promenâd ger y Senotaff.
Beth os bydd fy mhlentyn ar goll?
Gall plant coll a'u rhieni fynd i'r pwyntiau gwybodaeth a leolir ar y promenâd ger y Senotaff ac un yn y Ganolfan Ddinesig. Bydd stiwardiaid ar y safle i'ch helpu hefyd.
Beth os bydd angen mwy o wybodaeth arnaf pan fyddaf yn cyrraedd?
Bydd dau bwynt gwybodaeth, un wedi'i leoli ar y promenâd ger y Senotaff ac un yn y Ganolfan Ddinesig. Bydd gan y tîm gwybodaeth hefyd fapiau safle ac amserlen yr arddangosiadau.
Gall plant/rhieni hefyd fynd i'r pwyntiau gwybodaeth. Os na fyddwch yn siŵr, bydd stiwardiaid ar y safle i'ch helpu hefyd.
A fydd cyfleusterau Cymorth Cyntaf ar y safle?
Bydd, bydd dau brif bwynt Cymorth Cyntaf, gyda phersonél Sant Ioan arnynt. Mae un pwynt yn y Ganolfan Ddinesig, ac un ar y promenâd ger y Senotaff.
Bydd aelodau Sant Ioan hefyd yn cerdded o amgylch y safle drwy gydol y deuddydd. Os na fyddwch yn siŵr, bydd stiwardiaid ar y safle i'ch helpu hefyd.
Os nad yw'ch cwestiwn wedi'i ateb uchod, e-bostiwch special.events@swansea.gov.uk neu ffoniwch Canolfan Croeso Abertawe ar 01792 637300.


