Bydd Sioe Awyr Genedlaethol Cymru 2011 yn cynnwys -
Red Arrows
Bydd arddangosiad syfrdanol o awyrennau jet pan fydd y Red Arrows yn plymio ac yn codi yn yr awyr uwch ben Abertawe! Dydd Sadwrn 9 Gorffennaf yn unig.
Team Viper
Mae Team Viper yn hedfan pum jet Hawker Hunter uwchsonig clasurol mewn dull eithafol ond hardd. Dydd Sul 10 Gorffennaf yn unig.
Awyren fomio Lancaster
Bydd awyren fomio Lancaster y Battle of Britain Memorial Flight o gyfnod yr Ail Ryfel Byd yn olygfa wych dros Fae Abertawe. Dydd Sadwrn 9 Gorffennaf yn unig.
RAF Falcons
Tîm arddangos parasiwt milwrol blaenaf y DU, sy'n perfformio arddangosiad awyr lliwgar a dewr. Noddir y Falcons gan First Great Western.
Breitling Wingwalkers
Y Breitling Wingwalkers yw'r unig dîm hedfan clòs cerdded adenydd yn y byd, sy'n defnyddio awyrennau dwbl hardd.
Arddangosiad hofrennydd y Black Cat
Arddangosiad hynod gyffrous o alluoedd tra chywir a champau hedfan yr hofrennydd Lynx.
Arddangosiad hofrennydd y Black Cat.
Jet Hawk
Tîm Arddangos Hawk yw wyneb cyhoeddus Ysgol Hedfan Rhif 4 yn RAF y Fali, lle
caiff peilotiaid ymladd eu hyfforddi ar gyfer yr RAF a'r Llynges Frenhinol.
Arddangosiad y Tutor
Mae'r Tutor yn ddelfrydol ar gyfer erobateg ac fe'i defnyddir ar gyfer addysgu peilotiaid.
Sea King
Mae'r RAF yn dod ag arddangosfa chwilio ac achub gyffrous i Abertawe, a'r seren fydd hofrennydd y Sea King.
Tucano
Defnyddir y Tucano i ddatblygu sgiliau myfyrwyr gan gynnwys trin awyrennau a
hedfan clòs, sy'n ei gwneud yn awyren arddangos wych.
Tîm Osprey
Tîm Osprey yw’r unig dîm arddangos trefniant yng Nghymru - maent yn dîm o ddineswyr wedi'u lleoli yn Abertawe.
Merlin
Bydd hofrennydd Merlin y Llynges Frenhinol yn rhoi arddangosfa wych yn ystod
Sioe Awyr Genedlaethol Cymru.
Mae Sioe Awyr Genedlaethol Cymru'n rhan o Ŵyl Haf Bae Abertawe.
Mae'r holl asedau awyr milwrol ar gael yn amodol ar ofynion y gwasanaeth ac mae'r holl arddangosfeydd awyr yn amodol ar amodau awyr addas.


