Bydd Prom Abertawe yn orlawn o weithgareddau, efelychwyr hediadadau, ffair hwyl a hyd yn oed cwrs ymosod chwyddadwy!
Bydd arddangosfeydd ar y ddaear Sioe Awyr Genedlaethol Cymru ar agor o 10.00am tan 6.00pm ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf a dydd Sul 10 Gorffennaf.
Bydd llawer o arddangosiadau i'r plant roi cynnig arnynt yn 2011.
Gan gynnwys caban peilot Typhoon go iawn - dychmygwch gyrraedd
cyflymder Mach 2! Cewch adeiladu tân gwersyll a chael golwg go iawn ar
hofrennydd Chinook, gleider a thanciau'r fyddin.
Waliau dringo
Profwch eich ystwythder gyda'r RAF a'r Fyddin! Bydd sawl wal ddringo ar hyd Prom Abertawe gydag arweinwyr hyfforddi wrth law i'ch helpu i ddechrau arni!
Mae'r Fyddin hefyd yn dod â'i chwrs ymosod chwyddadwy a fu mor llwyddiannus gyda phob oedran yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru 2009!
Bywyd ar fwrdd llong
Bydd y Llynges Frenhinol wrth law i roi cipolwg ar fywyd ar fwrdd llong.
Cerbydau arfog ac arddangosfeydd arfau
Bydd y Fyddin yn arddangos cyfarpar milwrol a cherbydau arfog yn ystod y digwyddiad, gan gynnwys Cerbyd Ymladd Gwŷr Traed y Warrior.
Bydd hyn i gyd a mwy i'w gweld yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru 2011 ym Mae Abertawe, sy'n rhan o Ŵyl Haf Bae Abertawe.


