Cynhelir Sioe Awyr Genedlaethol Cymru nesaf yn 2013.
Bae Abertawe fydd y cefndir ysblennydd ar gyfer Sioe Awyr Genedlaethol Cymru a drefnir gan Ddinas a Sir Abertawe. Mae'r digwyddiad rhyfeddol hwn AM DDIM, a bydd miloedd o bobl yn mwynhau diwrnod mas gwych i'r teulu.
Arddangosiadau awyr
Roedd arddangosiadau awyr 2011 yn cynnwys y Red Arrows, Team Viper, Tornado GR4, arddangosiad parasiwt RAF Falcons, arddangosiadau hofrenyddion y Black Cats a llawer mwy...
Arddangosfeydd ar y ddaear
Rhoddodd sioe 2011 gyfle i ymwelwyr archwilio tanciau, rhoi cynnig ar gwrs ymosod chwyddadwy, cael profiad o fod fel peilot mewn caban peilot awyren ymladd a rhoi cynnig ar hofrenyddion yn yr arddangosfeydd ar y ddaear, gwych, a oedd yn ymestyn ar hyd Prom Abertawe o gwmpas y Senotaff.


